
|
YSGOLORIAETH BRYN TERFEL URDD GOBAITH CYMRU
Yn dilyn llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni bydd wyth
o bobl ifanc mwyaf talentog Cymru yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn
Terfel Urdd Gobaith Cymru ar nos Wener 16 Medi. Bydd y noson
yn cael ei chynnal yn Galeri yng Nghaernarfon am 7.00 yr hwyr ac yn
cael ei darlledu yn fyw ar S4C.
Mae’r Ysgoloriaeth yn werth £4,000 i’r enillydd. Yr wyth sy’n
cystadlu eleni yw Nerys Alwena Brown o Gaersws, enillydd yr Unawd
19-25 oed yn yr Eisteddfod, Catrin Evans, Llanfaircaereinion (Llefaru
19-25 oed), Glesni Fflur Evans, Y Bala (Unawd Cerdd Dant 19-25 oed),
Llio Evans, Ynys Môn (Unawd allan o Sioe Gerdd 14-25), Glian Llwyd,
Y Bala (Unawd Offerynnol 19-25 oed, Gregory Veary-Roberts,
Aberystwyth (Unawd Alaw Werin 19-25), a Lowri Walton, Caerdydd
(Dawns werin unigol i ferched 15-25 oed), Carwyn James (Cyflwyno
Drama Unigol 14-25 oed)
Cafodd pob un o’r perfformwyr ifanc yma gyfle i fynychu
dosbarthiadau meistri yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Eryri
a’r Cyffiniau eleni gyda beirniaid yr ysgoloriaeth yn diwtoriaid ar
y dosbarthiadau. Beirniaid y noson felly fydd y soprano Miriam Bowen
sy’n dysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, y coreograffydd a’r
ddawnswraig sydd bellach yn byw yng Ngwlad Belg, Sioned Huws, y
gantores a chyn enillydd Eisteddfodol, Nia Clwyd, y cerddor,
arweinydd a phianydd Terence Lloyd, yr actor o’r Rhondda Daniel
Evans a'r actores fyd enwog Siân Phillips.
Meddai Bryn Terfel:
"Mae'r Urdd yn fodd i feithrin talentau ieuenctid Cymru, a bydd y
Dosbarthiadau Meistri eleni yn rhoi cyfle i'r perfformwyr ifanc roi
sglein pellach ar eu rhaglen ar gyfer yr ysgoloriaeth. Dwi'n hynod o
falch gweld yr ysgoloriaeth hon yn mynd o nerth i nerth ac yn
datblygu ymhellach eleni."
Noddir y noson am yr ail flwyddyn yn olynol gan Principality,
cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru.
Meddai Peter Griffiths, Prif Weithredwr y Principality:
“Fel cymdeithas adeiladu Gymreig, rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd
gwaith yr Urdd wrth feithrin doniau a hunanhyder ieuenctid ein gwlad.
Rydym ni’n falch bod ein cefnogaeth ariannol yn galluogi’r Urdd i
gynal noson o adloniant heb ei ail yn ogystal â’r cyfle i
gystadleuwyr fanteisio ar arbenigedd rhai o enwogion Cymru. Mae ein
partneriaeth â’r Urdd hefyd yn tanlinellu ein hymrwymiad at y
Gymraeg, a gafodd ei gydnabod yn ddiweddar wrth i ni gyrraedd y
rhestr fer yng nghystadleuaeth Cwmni Dwyieithog y Flwyddyn 2005.”
Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd
Gobaith Cymru:
"Gobeithio bydd y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer datblygu
Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru yn gyfle i ddatblygu
sgiliau a thalentau'r goreuon hyd yn oed ymhellach. Dwi’n siw^r y
bydd gwledd yn aros y gynulleidfa yn Galeri a'r gynulleidfa adref ar
noson yr Ysgoloriaeth. Hoffwn ddiolch yn ddidwyll iawn i Bryn Terfel
am ei ddiddordeb cyson yng ngwaith yr Eisteddfod a'r Celfyddydau "
Yn ystod y noson hefyd bydd Gwenno Mair Davies yn derbyn coron
Eisteddfod yr Urdd 2005. Ildiodd Llinos Dafydd y goron yn dilyn yr
Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddechrau
mis Mehefin a bydd yr Urdd yn cynnal seremoni arbennig i anrhydeddu
Gwenno yn ystod y noson.
Am fwy o fanylion cysyllter â Manon Wyn, Swyddfa’r Urdd, Ffordd
Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115,
manonwyn@urdd.org
View in English
|